Come and be part of a global voice for wild plants and fungi
Help wildlife, connect with nature and take part in No Mow May – straight from your garden by letting the wildflowers grow (in May and beyond!)
There are many different ways you can go the extra mile for Plantlife – from organising a bake sale, running the London Marathon or planning your own plant-themed event.
Our corporate partners benefit from 35 years of experience in nature restoration so they can achieve real impact.
Become a Plantlife member today and together we will rebuild a world rich in plants and fungi
Read in: EnglishCymraeg
Diweddariad Gaeaf 23/24
Datgelu Cyfrinachau Cen Tân
Cyfle i ddarganfod sut mae prosiect adferiad gwyrdd blaenllaw Cymru, Natur am Byth!, yn helpu i ddatgelu ecoleg ddirgel cen sy’n diflannu gyda Swyddog y Prosiect Ellie Baggett
Wedi’i ddisgrifio fel ‘bychan ond hyfryd’ gan Gymdeithas Cennau Prydain, mae Cladonia peziziformis, sy’n cael ei adnabod oddi wrth ei enw cyffredin, y Cen Tân, yn gen bychan iawn sy’n byw ar y ddaear ac sydd i’w ganfod mewn dim ond llond llaw o gynefinoedd rhostir yn Ne a Gorllewin Prydain. Yn gen cynyddol brin, mae’n cael ei ddosbarthu fel Mewn Perygl Difrifol ym Mhrydain ac yn Agos at Fygythiad yng Nghymru.
Yn llai nag 1cm o uchder, gyda chennau llwydwyrdd siâp clust yn ei bôn a choesyn hollt unionsyth gyda chyrff ffrwytho brown ar ei phen, mae lens llaw yn hanfodol i gael golwg iawn ar y rhywogaeth fechan, arallfydol yma. Ond mae dirgelwch mawr y Cladonia peziziformis yn ei chylch bywyd.
Yng Nghymru, mae’r rhan fwyaf o’r cofnodion am y cen yma’n dod o rostiroedd o fewn pellter byr i’r arfordir, ac er bod y cofnodion hyn yn wasgaredig iawn, yn amrywio o ben draw Ynys Môn i Benrhyn Gŵyr, mae gan y lleoliadau lle mae wedi’i ganfod ffactor gyffredin anarferol.
Mae’n debyg iawn mai dim ond ar ôl tân rhos mae Cladonia peziziformis yn ymddangos, gan sefydlu am gyfnod byr ar y pridd noeth, ac wedyn diflannu unwaith y bydd y rhostir yn dechrau adfer. Felly, beth sy’n digwydd? Oes angen llosgi i greu amodau addas ar gyfer y rhywogaeth yma?
Un ddamcaniaeth ydi bod maethynnau sy’n cael eu rhyddhau gan ludw planhigion yn ystod llosgi’n chwarae rhan yn ecoleg y cen. Mae mwg sy’n deillio o blanhigion hefyd yn cynnwys cyfansoddion cemegol niferus fedr weithredu fel sbardun i egino, gan annog ei dyfiant o gronfa o sborau yn y pridd, er nad oes unrhyw astudiaeth wedi’i chynnal i ymchwilio i hyn.
Ar ôl sefydlu i ddechrau, y gred ydi bod Cladonia peziziformis wedyn yn dechrau diflannu wrth i lystyfiant y rhos adfer a chael y gorau ar y rhywogaeth.
Cladonia peziziformis ar rostir arfordirol yng Ngwynedd gan Dave Lamacraft
Fodd bynnag, yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, darganfuwyd poblogaethau sydd wedi profi mwy o hirhoedledd o Cladonia peziziformis yn ne Lloegr, i’w gweld ar laswelltiroedd a rhostiroedd byr, llai asidig sy’n cael eu pori’n drwm, lle nad yw llosgi lleol bob amser yn digwydd.
Mae’r ffaith bod y ‘cen tân’ yma i’w weld mewn cynefinoedd sydd heb danau yn awgrymu efallai mai ei angen am lystyfiant agored byr a phridd noeth yw’r ffactor allweddol ar gyfer ei lwyddiant.
Felly, oes angen llosgi rhostir a’r rhyddhau ar faethynnau a chemegau sy’n gysylltiedig â hynny i gynorthwyo Cladonia peziziformis i sefydlu, neu ai creu tir noeth a llystyfiant byr o danau sydd o fudd i’r rhywogaeth?
Dyma beth mae prosiect Natur am Byth! yn ceisio ei ddarganfod. Mae arbrofion maes wedi’u cynllunio i gymharu’n uniongyrchol effaith llosgi dan reolaeth yn erbyn torri rhostir (i efelychu pori trwm) ar C. peziziformis yn sefydlu.
Gan weithio ochr yn ochr â phrifysgolion, byddwn hefyd yn cefnogi arbrofion labordy i ymchwilio ymhellach i effeithiau tân, dadansoddi cynnwys maethynnau lludw, mwg a phridd, a rhoi dŵr mwg a lludw ar samplau pridd sy’n cynnwys sborau cen i brofi am sbardunau egino.
Yn ogystal â darparu cyfleoedd hyfforddi i fyfyrwyr ymgysylltu â gwyddoniaeth a chadwraeth, bydd yr ymchwil yma’n cynorthwyo ein dealltwriaeth o ddeinameg tanau rhostir, gan helpu fel sail i reolaeth yn y dyfodol i gefnogi Cladonia peziziformis a rheoli rhostir yn ehangach yng Nghymru.
Darganfyddwch fwy am brosiect adfer gwyrdd blaenllaw Cymru sy’n achub rhywogaethau bregus rhag difodiant, o gopaon mynyddoedd Eryri i’r arfordir.
Partneriaeth Natur am Byth yw prosiect Adferiad Gwyrdd blaenllaw Cymru. Mae’n uno naw elusen amgylcheddol gyda Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i gyflwyno rhaglen treftadaeth naturiol ac allgymorth fwyaf y wlad i achub rhywogaethau rhag difodiant ac ailgysylltu pobl â byd natur. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, dyfarnwyd mwy na £4.1m o’r Gronfa Dreftadaeth i’r bartneriaeth ym mis Mehefin 2023. Mae CNC wedi cyfrannu £1.7m ac mae partneriaid Natur am Byth wedi sicrhau £1.4m pellach gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a nifer o ymddiriedolaethau elusennol, sefydliadau a chyfranwyr corfforaethol. Mae’r rhain yn cynnwys rhoddion gan Sefydliad Esmée Fairbairn, a chefnogaeth sylweddol gan Gynllun Cymunedau Treth Gwarediadau Tirlenwi Llywodraeth Cymru sy’n cael ei weinyddu gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA).
Mae’n dymor y capiau cwyr yn Ystwyth Uchaf ac mae Sheena Duller o Plantlife yn esbonio pam y gall ffyngau a ffermio weithio’n dda gyda’i gilydd.
Dyma olwg fanylach ar rai o’r penawdau o’r adroddiad, beth maen nhw’n ei olygu i’n rhywogaethau a’n cynefinoedd ni yng Nghymru.
O'r syniad i'r gosod – yng ngeiriau Hannah Lee, y Swyddog Ymgysylltu â Phobl ar gyfer y Prosiect Twyni Deinamig.
Byddwn yn anfon diweddariadau atoch chi ar e-bost am ein gwaith, newyddion, ymgyrchoedd, apeliadau a ffyrdd o gymryd rhan. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion byth a gallwch optio allan ar unrhyw adeg. Darllenwch ein Hysbysiad Preifatrwydd.